-
Offeryn rhad ac am ddim yw Google Translate sy'n eich galluogi i gyfieithu brawddegau,
-
dogfennau a hyd yn oed gwefannau yn y fan a'r lle.
-
Ond sut yn union mae'n gweithio? I bob golwg, mae gennym ni lond ystafell o goblynnod dwyieithog yn
-
gweithio i ni, ond mewn gwirionedd o gyfrifiaduron y daw ein cyfieithiadau. Mae'r cyfrifiaduron hyn yn
-
defnyddio proses o'r enw “cyfieithu peiriannol ystadegol”--sef ffordd ffansi o ddweud bod ein
-
cyfrifiaduron yn cynhyrchu cyfieithiadau ar sail patrymau sy'n codi mewn symiau mawr o destun.
-
Ond beth am gamu'n ôl am eiliad. Os ydych chi am addysgu iaith newydd i rywun efallai y byddech
-
chi'n dechrau trwy addysgu geiriau'r eirfa iddyn nhw, a'r rheolau gramadegol sy'n esbonio sut i
-
adeiladu brawddegau. Gall cyfrifiadur ddysgu iaith dramor yn yr un modd - trwy gyfeirio at
-
eirfa a set o reolau.
-
Ond mae ieithoedd yn gymhleth ac, fel gall unrhyw un sy'n dysgu iaith ddweud wrthych chi, mae yna
-
eithriadau i bron bob rheol. Pan fyddwch chi'n ceisio ystyried pob un o'r eithriadau hyn, ac
-
eithriadau i'r eithriadau, mewn rhaglen gyfrifiadurol, mae safon y cyfieithu'n dechrau pallu.
-
Mae dull Google Translate o fynd ati'n wahanol. Yn lle ceisio addysgu pob rheol iaith i'n cyfrifiaduron,
-
rydyn ni'n gadael i'n cyfrifiaduron ddarganfod y rheolau drostyn nhw eu hunain. Maen nhw'n
-
gwneud hyn trwy ddadansoddi miliynau a miliynau o ddogfennau y mae cyfieithwyr dynol eisoes
-
wedi'u cyfieithu. Daw'r testunau hyn sydd wedi'u cyfieithu o lyfrau, sefydliadau fel y Cenhedloedd
-
Unedig a gwefannau o ledled y byd.
-
Mae ein cyfrifiaduron yn sganio'r testunau hyn gan edrych am batrymau sy'n ystadegol
-
arwyddocaol--hynny yw, patrymau rhwng y cyfieithiad a'r testun gwreiddiol y mae'n
-
annhebygol eu bod yn codi ar hap. Unwaith y daw'r cyfrifiadur o hyd i batrwm, gall
-
ddefnyddio'r patrwm hwn i gyfieithu testunau tebyg yn y dyfodol. Pan fyddwch chi'n ailadrodd
-
y broses hon biliynau o weithiau bydd biliynau o batrymau'n dod i'r fei, yn ogystal â rhaglen
-
gyfrifiadurol hynod graff.
-
Ond mae yna lai o ddogfennau sydd wedi'u cyfieithu ar gael ar gyfer rhai ieithoedd, ac felly llai
-
o batrymau y mae ein meddalwedd wedi dod o hyd iddyn nhw. Dyna pam y bydd safon ein cyfieithu'n
-
amrywio gan ddibynnu ar yr iaith a'r pâr ieithoedd. Rydyn ni'n gwybod nad yw ein cyfieithiadau bob amser
-
yn berffaith ond trwy fynd ati'n gyson i ddarparu testunau newydd wedi'u cyfieithu, gallwn ni wneud
-
ein cyfrifiaduron yn graffach a'n cyfieithiadau'n well.
-
Felly'r tro nesaf y byddwch chi'n cyfieithu brawddeg neu dudalen gwe â Google Translate,
-
meddyliwch am y miliynau hynny o ddogfennau a'r biliynau hynny o batrymau a arweiniodd at eich
-
cyfieithiad yn y pen draw - a hyn oll yn digwydd mewn chwinciad.
-
Gwych, ynte?
-
Rhowch gynnig arni yn translate.google.com.