1 00:00:00,420 --> 00:00:04,660 Offeryn rhad ac am ddim yw Google Translate sy'n eich galluogi i gyfieithu brawddegau, 2 00:00:04,660 --> 00:00:07,680 dogfennau a hyd yn oed gwefannau yn y fan a'r lle. 3 00:00:07,680 --> 00:00:12,099 Ond sut yn union mae'n gweithio? I bob golwg, mae gennym ni lond ystafell o goblynnod dwyieithog yn 4 00:00:12,099 --> 00:00:17,470 gweithio i ni, ond mewn gwirionedd o gyfrifiaduron y daw ein cyfieithiadau. Mae'r cyfrifiaduron hyn yn 5 00:00:17,470 --> 00:00:22,520 defnyddio proses o'r enw “cyfieithu peiriannol ystadegol”--sef ffordd ffansi o ddweud bod ein 6 00:00:22,520 --> 00:00:25,439 cyfrifiaduron yn cynhyrchu cyfieithiadau ar sail patrymau sy'n codi mewn symiau mawr o destun. 7 00:00:25,439 --> 00:00:30,539 Ond beth am gamu'n ôl am eiliad. Os ydych chi am addysgu iaith newydd i rywun efallai y byddech 8 00:00:30,539 --> 00:00:34,809 chi'n dechrau trwy addysgu geiriau'r eirfa iddyn nhw, a'r rheolau gramadegol sy'n esbonio sut i 9 00:00:34,809 --> 00:00:39,909 adeiladu brawddegau. Gall cyfrifiadur ddysgu iaith dramor yn yr un modd - trwy gyfeirio at 10 00:00:39,909 --> 00:00:42,379 eirfa a set o reolau. 11 00:00:42,379 --> 00:00:46,309 Ond mae ieithoedd yn gymhleth ac, fel gall unrhyw un sy'n dysgu iaith ddweud wrthych chi, mae yna 12 00:00:46,309 --> 00:00:51,679 eithriadau i bron bob rheol. Pan fyddwch chi'n ceisio ystyried pob un o'r eithriadau hyn, ac 13 00:00:51,679 --> 00:00:57,239 eithriadau i'r eithriadau, mewn rhaglen gyfrifiadurol, mae safon y cyfieithu'n dechrau pallu. 14 00:00:57,239 --> 00:01:01,779 Mae dull Google Translate o fynd ati'n wahanol. Yn lle ceisio addysgu pob rheol iaith i'n cyfrifiaduron, 15 00:01:01,779 --> 00:01:07,060 rydyn ni'n gadael i'n cyfrifiaduron ddarganfod y rheolau drostyn nhw eu hunain. Maen nhw'n 16 00:01:07,060 --> 00:01:10,619 gwneud hyn trwy ddadansoddi miliynau a miliynau o ddogfennau y mae cyfieithwyr dynol eisoes 17 00:01:10,619 --> 00:01:17,259 wedi'u cyfieithu. Daw'r testunau hyn sydd wedi'u cyfieithu o lyfrau, sefydliadau fel y Cenhedloedd 18 00:01:17,259 --> 00:01:19,950 Unedig a gwefannau o ledled y byd. 19 00:01:19,950 --> 00:01:23,810 Mae ein cyfrifiaduron yn sganio'r testunau hyn gan edrych am batrymau sy'n ystadegol 20 00:01:23,810 --> 00:01:27,969 arwyddocaol--hynny yw, patrymau rhwng y cyfieithiad a'r testun gwreiddiol y mae'n 21 00:01:27,969 --> 00:01:33,829 annhebygol eu bod yn codi ar hap. Unwaith y daw'r cyfrifiadur o hyd i batrwm, gall 22 00:01:33,829 --> 00:01:38,710 ddefnyddio'r patrwm hwn i gyfieithu testunau tebyg yn y dyfodol. Pan fyddwch chi'n ailadrodd 23 00:01:38,710 --> 00:01:42,100 y broses hon biliynau o weithiau bydd biliynau o batrymau'n dod i'r fei, yn ogystal â rhaglen 24 00:01:42,100 --> 00:01:43,700 gyfrifiadurol hynod graff. 25 00:01:43,700 --> 00:01:48,399 Ond mae yna lai o ddogfennau sydd wedi'u cyfieithu ar gael ar gyfer rhai ieithoedd, ac felly llai 26 00:01:48,399 --> 00:01:53,049 o batrymau y mae ein meddalwedd wedi dod o hyd iddyn nhw. Dyna pam y bydd safon ein cyfieithu'n 27 00:01:53,049 --> 00:01:58,479 amrywio gan ddibynnu ar yr iaith a'r pâr ieithoedd. Rydyn ni'n gwybod nad yw ein cyfieithiadau bob amser 28 00:01:58,479 --> 00:02:03,240 yn berffaith ond trwy fynd ati'n gyson i ddarparu testunau newydd wedi'u cyfieithu, gallwn ni wneud 29 00:02:03,240 --> 00:02:05,539 ein cyfrifiaduron yn graffach a'n cyfieithiadau'n well. 30 00:02:05,539 --> 00:02:09,670 Felly'r tro nesaf y byddwch chi'n cyfieithu brawddeg neu dudalen gwe â Google Translate, 31 00:02:09,670 --> 00:02:15,349 meddyliwch am y miliynau hynny o ddogfennau a'r biliynau hynny o batrymau a arweiniodd at eich 32 00:02:15,349 --> 00:02:17,650 cyfieithiad yn y pen draw - a hyn oll yn digwydd mewn chwinciad. 33 00:02:17,650 --> 00:02:19,260 Gwych, ynte? 34 00:02:19,260 --> 99:59:59,999 Rhowch gynnig arni yn translate.google.com.