Croeso i'r cyflwyniad ar 'Ychwanegiad Sylfaenol' Dwi'n gwybod beth yr ydych yn feddwl: "Sal, dydy ychwanegiad ddim mor sylfaenol" Felly, dwi'n ymddiheuro. Yn gobeithiol erbyn diwedd y cyflwyniad yma neu mewn ychydig o wythythnosau, mi fydd o'n sylfaenol i chi. Felly gadewch i ni gychwyn efo ychydig o broblemau. Gadewch i ni gychwyn efo un problem classurol. 1+1 Dwi'n meddwl bod chi'n gwybod sut i wneud hyn. Ond, mi wnai i ddangos i chi un ffordd o wneud hyn, rhag ofn bod chi heb dysgu hyn ar gof, neu bod chi heb wedi meistroli hyn. Felly os gen i un (Gadewch iddo fod yn 'afocado'.) Os mae gen i 1 afocado, ac wedyn rydych yn rhoi afocado ychwanegol i fi, faint o afocados sydd gen i rwan? Mae gen i 1....2 afocados. Felly 1+1 yn hafal i 2. Nawr, dwi'n gwybod beth yr ydych yn feddwl: "Roedd hynny yn rhy hawdd." Felly gadewch i mi rhoi rhybeth mwy annodd i chi. Dwi'n hoffi'r afocados. Efallai wnai aros efo'r thema yna. Beth yw 3+4? Hmm. Mae hyn yn, dwi'n meddwl, problem mwy annodd. Mi wnawn ni aros efo'r afocados. A thag ofn bod chi ddim yn gwybod beth ydy afocado, mae o'n ffrwyth blasus iawn. Mewn wirionedd, y ffrwyth mwyaf brasterog ydy o. Yn debygol doeddech chi ddim yn meddwl mae ffrwyth oedd o, hyd yn oed os da chi wedi blasu un. Dudwch mae gen i 3 afocado. 1,2,3. Iawn? 1,2,3. A dudwch bod chi yn rhoi 4 arall i mi yn ychwanegol. Felly gadewch i mi rhoi y 4 mewn melyn, er mwyn i chi gwybod bod rhain yw'r rhai da chi'n rhoi i fi. 1 2 3 4 Felly faint o afocados sydd gen i rwan? Mae gen i, 1,2,3,4,5,6,7 afocado.