WEBVTT 00:00:00.000 --> 00:00:04.894 Tatoeba: Pont rhwng ieithoedd 00:00:05.961 --> 00:00:11.279 Beth yw Tatoeba? 00:00:11.387 --> 00:00:14.317 Geiriadur ieithoedd yw Tatoeba. 00:00:14.434 --> 00:00:16.010 Gallwch chwilio am eiriau 00:00:16.010 --> 00:00:17.926 a chael cyfieithiadau. 00:00:18.541 --> 00:00:22.570 Ond nid geiriadur cyffredin mohono. 00:00:23.277 --> 00:00:25.415 Brawddegau sy'n bwysig, 00:00:25.415 --> 00:00:26.717 Nid geiriau. 00:00:26.717 --> 00:00:30.191 Gallwch chwilio am frawddegau sy'n cynnwys gair penodol 00:00:30.191 --> 00:00:33.696 A chael cyfieithiadau o'r brawddegau hynny. 00:00:34.327 --> 00:00:37.077 "Pam brawddegau?" gofynnwch. 00:00:37.077 --> 00:00:40.642 Wel, oherwydd mae brawddegau'n fwy diddorol. 00:00:40.688 --> 00:00:43.345 Gall brawddegau esbonio cyd-destun geiriau. 00:00:43.345 --> 00:00:45.797 Mae gan frawddegau bersonoliaeth. 00:00:45.797 --> 00:00:48.538 Gallant fod yn ddoniol, yn glyfar, yn wirion 00:00:48.538 --> 00:00:50.378 yn dreiddgar, yn deimladwy, 00:00:50.378 --> 00:00:51.763 ac yn greulon. 00:00:51.886 --> 00:00:54.338 Gall brawddegau ein haddysgu, 00:00:54.338 --> 00:00:56.745 a llawer mwy na geiriau'n unig. 00:00:57.160 --> 00:00:59.628 Felly 'rydyn ni'n caru brawddegau. 00:01:00.074 --> 00:01:03.677 Ond, yn fwy na hynny, 'rydyn ni'n caru ieithoedd. 00:01:03.677 --> 00:01:07.265 A'r hyn sydd eisiau arnom fwy nag unrhyw beth yw llwyth o frawddegau 00:01:07.265 --> 00:01:10.320 mewn llwyth o ieithoedd ac mewn unrhyw iaith. 00:01:10.751 --> 00:01:14.218 Dyna pam mae Tatoeba'n aml-ieithog 00:01:14.880 --> 00:01:17.588 Ond nid y fath honno o aml-ieithog - 00:01:17.588 --> 00:01:19.618 nid y fath lle mae ieithoedd 00:01:19.618 --> 00:01:22.111 yn cael eu rhoi mewn parau â'i gilydd, 00:01:22.111 --> 00:01:24.637 a lle caiff ambell bâr ei anghofio. 00:01:25.067 --> 00:01:28.286 Mae Tatoeba wir yn aml-ieithog. 00:01:28.286 --> 00:01:31.726 Mae pob iaith wedi ei chyd-gysylltu. 00:01:32.188 --> 00:01:36.788 Os oes gan frawddeg Islandeg gyfieithiad yn y Saesneg, 00:01:36.788 --> 00:01:40.708 ac mae gan y frawddeg Saesneg gyfieithiad yn Swahili, 00:01:40.708 --> 00:01:45.114 wedyn yn anuniongyrchol, darperir cyfieithiad Swahili 00:01:45.114 --> 00:01:47.452 i'r frawddeg Islandeg. 00:01:47.883 --> 00:01:52.959 Gall ieithoedd na fyddent byth wedi dod at ei gilydd mewn system draddodiadol 00:01:52.959 --> 00:01:56.003 gael eu cysylltu drwy Tatoeba. 00:01:56.003 --> 00:01:58.052 Ansbaradigaethus, yndi? 00:01:58.652 --> 00:02:01.717 Ond, o ble cawn y brawddegau? 00:02:01.717 --> 00:02:04.129 Ac sut ydym ni'n eu cyfieithu? 00:02:04.129 --> 00:02:08.188 Yn amlwg, ni all un person yn unig wneud yr holl waith. 00:02:08.726 --> 00:02:12.452 A dyna pam mae Tatoeba'n gydweithredol. 00:02:12.575 --> 00:02:15.240 Gall unrhyw un gyfrannu. 00:02:15.240 --> 00:02:19.243 Ac mae gan bawb y gallu i gyfrannu. 00:02:19.243 --> 00:02:22.148 'Does dim rhaid i chi fod yn amlieithog. 00:02:22.148 --> 00:02:24.262 Mae pawb yn siarad iaith. 00:02:24.262 --> 00:02:26.037 Gall pawb fwydo'r gronfa ddata 00:02:26.037 --> 00:02:28.704 er mwyn magu geirfaoedd newydd. 00:02:28.704 --> 00:02:32.748 Mae pawb yn medru sicrhau bod brawddegau'n swnio'n gywir, 00:02:32.748 --> 00:02:35.082 ac yn cael eu sillafu'n gywir. 00:02:35.082 --> 00:02:39.760 A dweud y gwir, mae angen pawb ar y prosiect hwn. 00:02:39.760 --> 00:02:42.728 Nid yw ieithoedd yn bethau pendant. 00:02:42.728 --> 00:02:45.766 Mae ieithoedd yn byw trwom ni i gyd. 00:02:45.766 --> 00:02:50.004 Hoffem gasglu'r unigrywiaeth sydd ym mhob iaith. 00:02:50.004 --> 00:02:54.122 A hoffem gasglu eu hesblygiad trwy amser. 00:02:54.122 --> 00:02:56.044 Ond byddai'n drist iawn 00:02:56.044 --> 00:03:00.520 casglu'r brawddegau i gyd a'u cadw i ni'n hunain. 00:03:00.520 --> 00:03:04.360 Oherwydd mae yna gymaint gallwch ei wneud gyda nhw. 00:03:04.360 --> 00:03:07.571 Dyna pam mae Tatoeba'n agored. 00:03:07.571 --> 00:03:09.160 Mae'r cod gweiddredol yn agored, 00:03:09.160 --> 00:03:11.983 Mae ein data'n agored. 00:03:11.983 --> 00:03:13.972 'Rydyn ni'n rhyddhau'r brawddegau a gasglwn 00:03:13.972 --> 00:03:17.775 o dan drwydded Comin Creadigol (Creative Commons Attribution). 00:03:18.006 --> 00:03:22.281 Mae hyn yn golygu y gallwch eu defnyddio i gyd yn rhydd am ar gyfer gwerslyfr, 00:03:22.281 --> 00:03:23.994 ar gyfer cais, 00:03:23.994 --> 00:03:26.252 am brosiect ymchwil, 00:03:26.252 --> 00:03:29.083 am unrhyw beth! 00:03:29.452 --> 00:03:31.917 Felly dyna Tatoeba, 00:03:31.917 --> 00:03:35.019 Ond nid dyna'r cyfan. 00:03:35.342 --> 00:03:38.923 Nid yw Tatoeba ond yn eiriadur o frawddegau 00:03:38.923 --> 00:03:42.373 sy'n agored, sy'n gydweithredol, sy'n amlieithog. 00:03:42.819 --> 00:03:46.382 Mae rhan o ecosystem y hoffem ei hadeiladu. 00:03:46.382 --> 00:03:49.951 Hoffem ddod ag offer ieithyddol i'r lefel nesaf. 00:03:49.951 --> 00:03:54.153 Hoffem weld arloesedd o fewn dysgu ieithoedd. 00:03:54.153 --> 00:03:58.671 Ac ni all hyn ddigwydd heb adnoddau ieithodd agored 00:03:58.671 --> 00:04:02.138 na allent gael eu hadeiladu heb gymuned, 00:04:02.138 --> 00:04:06.231 na all gyfrannu heb lwyfannau effeithlon. 00:04:06.877 --> 00:04:09.841 Felly yn gyfan gwbl, gyda Thatoeba, 00:04:09.841 --> 00:04:12.960 'rydyn ni ond yn adeiliadu'r sylfeini 00:04:12.960 --> 00:04:14.444 er mwyn gwneud i'r Rhyngrwyd 00:04:14.444 --> 00:04:23.298 yn well le am ddysgu ieithoedd.