Tatoeba: Pont rhwng ieithoedd Beth yw Tatoeba? Geiriadur ieithoedd yw Tatoeba. Gallwch chwilio am eiriau a chael cyfieithiadau. Ond nid geiriadur cyffredin mohono. Brawddegau sy'n bwysig, Nid geiriau. Gallwch chwilio am frawddegau sy'n cynnwys gair penodol A chael cyfieithiadau o'r brawddegau hynny. "Pam brawddegau?" gofynnwch. Wel, oherwydd mae brawddegau'n fwy diddorol. Gall brawddegau esbonio cyd-destun geiriau. Mae gan frawddegau bersonoliaeth. Gallant fod yn ddoniol, yn glyfar, yn wirion yn dreiddgar, yn deimladwy, ac yn greulon. Gall brawddegau ein haddysgu, a llawer mwy na geiriau'n unig. Felly 'rydyn ni'n caru brawddegau. Ond, yn fwy na hynny, 'rydyn ni'n caru ieithoedd. A'r hyn sydd eisiau arnom fwy nag unrhyw beth yw llwyth o frawddegau mewn llwyth o ieithoedd ac mewn unrhyw iaith. Dyna pam mae Tatoeba'n aml-ieithog Ond nid y fath honno o aml-ieithog - nid y fath lle mae ieithoedd yn cael eu rhoi mewn parau â'i gilydd, a lle caiff ambell bâr ei anghofio. Mae Tatoeba wir yn aml-ieithog. Mae pob iaith wedi ei chyd-gysylltu. Os oes gan frawddeg Islandeg gyfieithiad yn y Saesneg, ac mae gan y frawddeg Saesneg gyfieithiad yn Swahili, wedyn yn anuniongyrchol, darperir cyfieithiad Swahili i'r frawddeg Islandeg. Gall ieithoedd na fyddent byth wedi dod at ei gilydd mewn system draddodiadol gael eu cysylltu drwy Tatoeba. Ansbaradigaethus, yndi? Ond, o ble cawn y brawddegau? Ac sut ydym ni'n eu cyfieithu? Yn amlwg, ni all un person yn unig wneud yr holl waith. A dyna pam mae Tatoeba'n gydweithredol. Gall unrhyw un gyfrannu. Ac mae gan bawb y gallu i gyfrannu. 'Does dim rhaid i chi fod yn amlieithog. Mae pawb yn siarad iaith. Gall pawb fwydo'r gronfa ddata er mwyn magu geirfaoedd newydd. Mae pawb yn medru sicrhau bod brawddegau'n swnio'n gywir, ac yn cael eu sillafu'n gywir. A dweud y gwir, mae angen pawb ar y prosiect hwn. Nid yw ieithoedd yn bethau pendant. Mae ieithoedd yn byw trwom ni i gyd. Hoffem gasglu'r unigrywiaeth sydd ym mhob iaith. A hoffem gasglu eu hesblygiad trwy amser. Ond byddai'n drist iawn casglu'r brawddegau i gyd a'u cadw i ni'n hunain. Oherwydd mae yna gymaint gallwch ei wneud gyda nhw. Dyna pam mae Tatoeba'n agored. Mae'r cod gweiddredol yn agored, Mae ein data'n agored. 'Rydyn ni'n rhyddhau'r brawddegau a gasglwn o dan drwydded Comin Creadigol (Creative Commons Attribution). Mae hyn yn golygu y gallwch eu defnyddio i gyd yn rhydd am ar gyfer gwerslyfr, ar gyfer cais, am brosiect ymchwil, am unrhyw beth! Felly dyna Tatoeba, Ond nid dyna'r cyfan. Nid yw Tatoeba ond yn eiriadur o frawddegau sy'n agored, sy'n gydweithredol, sy'n amlieithog. Mae rhan o ecosystem y hoffem ei hadeiladu. Hoffem ddod ag offer ieithyddol i'r lefel nesaf. Hoffem weld arloesedd o fewn dysgu ieithoedd. Ac ni all hyn ddigwydd heb adnoddau ieithodd agored na allent gael eu hadeiladu heb gymuned, na all gyfrannu heb lwyfannau effeithlon. Felly yn gyfan gwbl, gyda Thatoeba, 'rydyn ni ond yn adeiliadu'r sylfeini er mwyn gwneud i'r Rhyngrwyd yn well le am ddysgu ieithoedd.