0:00:00.000,0:00:04.894 Tatoeba: Pont rhwng ieithoedd 0:00:05.961,0:00:11.279 Beth yw Tatoeba? 0:00:11.387,0:00:14.317 Geiriadur ieithoedd yw Tatoeba. 0:00:14.434,0:00:16.010 Gallwch chwilio am eiriau 0:00:16.010,0:00:17.926 a chael cyfieithiadau. 0:00:18.541,0:00:22.570 Ond nid geiriadur cyffredin mohono. 0:00:23.277,0:00:25.415 Brawddegau sy'n bwysig, 0:00:25.415,0:00:26.717 Nid geiriau. 0:00:26.717,0:00:30.191 Gallwch chwilio am frawddegau sy'n cynnwys gair penodol 0:00:30.191,0:00:33.696 A chael cyfieithiadau o'r brawddegau hynny. 0:00:34.327,0:00:37.077 "Pam brawddegau?" gofynnwch. 0:00:37.077,0:00:40.642 Wel, oherwydd mae brawddegau'n fwy diddorol. 0:00:40.688,0:00:43.345 Gall brawddegau esbonio cyd-destun geiriau. 0:00:43.345,0:00:45.797 Mae gan frawddegau bersonoliaeth. 0:00:45.797,0:00:48.538 Gallant fod yn ddoniol, yn glyfar, yn wirion 0:00:48.538,0:00:50.378 yn dreiddgar, yn deimladwy, 0:00:50.378,0:00:51.763 ac yn greulon. 0:00:51.886,0:00:54.338 Gall brawddegau ein haddysgu, 0:00:54.338,0:00:56.745 a llawer mwy na geiriau'n unig. 0:00:57.160,0:00:59.628 Felly 'rydyn ni'n caru brawddegau. 0:01:00.074,0:01:03.677 Ond, yn fwy na hynny, 'rydyn ni'n caru ieithoedd. 0:01:03.677,0:01:07.265 A'r hyn sydd eisiau arnom fwy nag unrhyw beth yw llwyth o frawddegau 0:01:07.265,0:01:10.320 mewn llwyth o ieithoedd ac mewn unrhyw iaith. 0:01:10.751,0:01:14.218 Dyna pam mae Tatoeba'n aml-ieithog 0:01:14.880,0:01:17.588 Ond nid y fath honno o aml-ieithog - 0:01:17.588,0:01:19.618 nid y fath lle mae ieithoedd 0:01:19.618,0:01:22.111 yn cael eu rhoi mewn parau â'i gilydd, 0:01:22.111,0:01:24.637 a lle caiff ambell bâr ei anghofio. 0:01:25.067,0:01:28.286 Mae Tatoeba wir yn aml-ieithog. 0:01:28.286,0:01:31.726 Mae pob iaith wedi ei chyd-gysylltu. 0:01:32.188,0:01:36.788 Os oes gan frawddeg Islandeg gyfieithiad yn y Saesneg, 0:01:36.788,0:01:40.708 ac mae gan y frawddeg Saesneg gyfieithiad yn Swahili, 0:01:40.708,0:01:45.114 wedyn yn anuniongyrchol, darperir cyfieithiad Swahili 0:01:45.114,0:01:47.452 i'r frawddeg Islandeg. 0:01:47.883,0:01:52.959 Gall ieithoedd na fyddent byth wedi dod at ei gilydd mewn system draddodiadol 0:01:52.959,0:01:56.003 gael eu cysylltu drwy Tatoeba. 0:01:56.003,0:01:58.052 Ansbaradigaethus, yndi? 0:01:58.652,0:02:01.717 Ond, o ble cawn y brawddegau? 0:02:01.717,0:02:04.129 Ac sut ydym ni'n eu cyfieithu? 0:02:04.129,0:02:08.188 Yn amlwg, ni all un person yn unig wneud yr holl waith. 0:02:08.726,0:02:12.452 A dyna pam mae Tatoeba'n gydweithredol. 0:02:12.575,0:02:15.240 Gall unrhyw un gyfrannu. 0:02:15.240,0:02:19.243 Ac mae gan bawb y gallu i gyfrannu. 0:02:19.243,0:02:22.148 'Does dim rhaid i chi fod yn amlieithog. 0:02:22.148,0:02:24.262 Mae pawb yn siarad iaith. 0:02:24.262,0:02:26.037 Gall pawb fwydo'r gronfa ddata 0:02:26.037,0:02:28.704 er mwyn magu geirfaoedd newydd. 0:02:28.704,0:02:32.748 Mae pawb yn medru sicrhau bod brawddegau'n swnio'n gywir, 0:02:32.748,0:02:35.082 ac yn cael eu sillafu'n gywir. 0:02:35.082,0:02:39.760 A dweud y gwir, mae angen pawb ar y prosiect hwn. 0:02:39.760,0:02:42.728 Nid yw ieithoedd yn bethau pendant. 0:02:42.728,0:02:45.766 Mae ieithoedd yn byw trwom ni i gyd. 0:02:45.766,0:02:50.004 Hoffem gasglu'r unigrywiaeth sydd ym mhob iaith. 0:02:50.004,0:02:54.122 A hoffem gasglu eu hesblygiad trwy amser. 0:02:54.122,0:02:56.044 Ond byddai'n drist iawn 0:02:56.044,0:03:00.520 casglu'r brawddegau i gyd a'u cadw i ni'n hunain. 0:03:00.520,0:03:04.360 Oherwydd mae yna gymaint gallwch ei wneud gyda nhw. 0:03:04.360,0:03:07.571 Dyna pam mae Tatoeba'n agored. 0:03:07.571,0:03:09.160 Mae'r cod gweiddredol yn agored, 0:03:09.160,0:03:11.983 Mae ein data'n agored. 0:03:11.983,0:03:13.972 'Rydyn ni'n rhyddhau'r brawddegau a gasglwn 0:03:13.972,0:03:17.775 o dan drwydded Comin Creadigol (Creative Commons Attribution). 0:03:18.006,0:03:22.281 Mae hyn yn golygu y gallwch eu defnyddio i gyd yn rhydd am ar gyfer gwerslyfr, 0:03:22.281,0:03:23.994 ar gyfer cais, 0:03:23.994,0:03:26.252 am brosiect ymchwil, 0:03:26.252,0:03:29.083 am unrhyw beth! 0:03:29.452,0:03:31.917 Felly dyna Tatoeba, 0:03:31.917,0:03:35.019 Ond nid dyna'r cyfan. 0:03:35.342,0:03:38.923 Nid yw Tatoeba ond yn eiriadur o frawddegau 0:03:38.923,0:03:42.373 sy'n agored, sy'n gydweithredol, sy'n amlieithog. 0:03:42.819,0:03:46.382 Mae rhan o ecosystem y hoffem ei hadeiladu. 0:03:46.382,0:03:49.951 Hoffem ddod ag offer ieithyddol i'r lefel nesaf. 0:03:49.951,0:03:54.153 Hoffem weld arloesedd o fewn dysgu ieithoedd. 0:03:54.153,0:03:58.671 Ac ni all hyn ddigwydd heb adnoddau ieithodd agored 0:03:58.671,0:04:02.138 na allent gael eu hadeiladu heb gymuned, 0:04:02.138,0:04:06.231 na all gyfrannu heb lwyfannau effeithlon. 0:04:06.877,0:04:09.841 Felly yn gyfan gwbl, gyda Thatoeba, 0:04:09.841,0:04:12.960 'rydyn ni ond yn adeiliadu'r sylfeini 0:04:12.960,0:04:14.444 er mwyn gwneud i'r Rhyngrwyd 0:04:14.444,0:04:23.298 yn well le am ddysgu ieithoedd.