Return to Video

Prosiect Tatoeba - Geiriadur brawddegau agored, cydweithredol ac amlieithoeg

  • 0:00 - 0:05
    Tatoeba: Pont rhwng ieithoedd
  • 0:06 - 0:11
    Beth yw Tatoeba?
  • 0:11 - 0:14
    Geiriadur ieithoedd yw Tatoeba.
  • 0:14 - 0:16
    Gallwch chwilio am eiriau
  • 0:16 - 0:18
    a chael cyfieithiadau.
  • 0:19 - 0:23
    Ond nid geiriadur cyffredin mohono.
  • 0:23 - 0:25
    Brawddegau sy'n bwysig,
  • 0:25 - 0:27
    Nid geiriau.
  • 0:27 - 0:30
    Gallwch chwilio am frawddegau sy'n cynnwys gair penodol
  • 0:30 - 0:34
    A chael cyfieithiadau o'r brawddegau hynny.
  • 0:34 - 0:37
    "Pam brawddegau?" gofynnwch.
  • 0:37 - 0:41
    Wel, oherwydd mae brawddegau'n fwy diddorol.
  • 0:41 - 0:43
    Gall brawddegau esbonio cyd-destun geiriau.
  • 0:43 - 0:46
    Mae gan frawddegau bersonoliaeth.
  • 0:46 - 0:49
    Gallant fod yn ddoniol, yn glyfar, yn wirion
  • 0:49 - 0:50
    yn dreiddgar, yn deimladwy,
  • 0:50 - 0:52
    ac yn greulon.
  • 0:52 - 0:54
    Gall brawddegau ein haddysgu,
  • 0:54 - 0:57
    a llawer mwy na geiriau'n unig.
  • 0:57 - 1:00
    Felly 'rydyn ni'n caru brawddegau.
  • 1:00 - 1:04
    Ond, yn fwy na hynny, 'rydyn ni'n caru ieithoedd.
  • 1:04 - 1:07
    A'r hyn sydd eisiau arnom fwy nag unrhyw beth yw llwyth o frawddegau
  • 1:07 - 1:10
    mewn llwyth o ieithoedd ac mewn unrhyw iaith.
  • 1:11 - 1:14
    Dyna pam mae Tatoeba'n aml-ieithog
  • 1:15 - 1:18
    Ond nid y fath honno o aml-ieithog -
  • 1:18 - 1:20
    nid y fath lle mae ieithoedd
  • 1:20 - 1:22
    yn cael eu rhoi mewn parau â'i gilydd,
  • 1:22 - 1:25
    a lle caiff ambell bâr ei anghofio.
  • 1:25 - 1:28
    Mae Tatoeba wir yn aml-ieithog.
  • 1:28 - 1:32
    Mae pob iaith wedi ei chyd-gysylltu.
  • 1:32 - 1:37
    Os oes gan frawddeg Islandeg gyfieithiad yn y Saesneg,
  • 1:37 - 1:41
    ac mae gan y frawddeg Saesneg gyfieithiad yn Swahili,
  • 1:41 - 1:45
    wedyn yn anuniongyrchol, darperir cyfieithiad Swahili
  • 1:45 - 1:47
    i'r frawddeg Islandeg.
  • 1:48 - 1:53
    Gall ieithoedd na fyddent byth wedi dod at ei gilydd mewn system draddodiadol
  • 1:53 - 1:56
    gael eu cysylltu drwy Tatoeba.
  • 1:56 - 1:58
    Ansbaradigaethus, yndi?
  • 1:59 - 2:02
    Ond, o ble cawn y brawddegau?
  • 2:02 - 2:04
    Ac sut ydym ni'n eu cyfieithu?
  • 2:04 - 2:08
    Yn amlwg, ni all un person yn unig wneud yr holl waith.
  • 2:09 - 2:12
    A dyna pam mae Tatoeba'n gydweithredol.
  • 2:13 - 2:15
    Gall unrhyw un gyfrannu.
  • 2:15 - 2:19
    Ac mae gan bawb y gallu i gyfrannu.
  • 2:19 - 2:22
    'Does dim rhaid i chi fod yn amlieithog.
  • 2:22 - 2:24
    Mae pawb yn siarad iaith.
  • 2:24 - 2:26
    Gall pawb fwydo'r gronfa ddata
  • 2:26 - 2:29
    er mwyn magu geirfaoedd newydd.
  • 2:29 - 2:33
    Mae pawb yn medru sicrhau bod brawddegau'n swnio'n gywir,
  • 2:33 - 2:35
    ac yn cael eu sillafu'n gywir.
  • 2:35 - 2:40
    A dweud y gwir, mae angen pawb ar y prosiect hwn.
  • 2:40 - 2:43
    Nid yw ieithoedd yn bethau pendant.
  • 2:43 - 2:46
    Mae ieithoedd yn byw trwom ni i gyd.
  • 2:46 - 2:50
    Hoffem gasglu'r unigrywiaeth sydd ym mhob iaith.
  • 2:50 - 2:54
    A hoffem gasglu eu hesblygiad trwy amser.
  • 2:54 - 2:56
    Ond byddai'n drist iawn
  • 2:56 - 3:01
    casglu'r brawddegau i gyd a'u cadw i ni'n hunain.
  • 3:01 - 3:04
    Oherwydd mae yna gymaint gallwch ei wneud gyda nhw.
  • 3:04 - 3:08
    Dyna pam mae Tatoeba'n agored.
  • 3:08 - 3:09
    Mae'r cod gweiddredol yn agored,
  • 3:09 - 3:12
    Mae ein data'n agored.
  • 3:12 - 3:14
    'Rydyn ni'n rhyddhau'r brawddegau a gasglwn
  • 3:14 - 3:18
    o dan drwydded Comin Creadigol (Creative Commons Attribution).
  • 3:18 - 3:22
    Mae hyn yn golygu y gallwch eu defnyddio i gyd yn rhydd am ar gyfer gwerslyfr,
  • 3:22 - 3:24
    ar gyfer cais,
  • 3:24 - 3:26
    am brosiect ymchwil,
  • 3:26 - 3:29
    am unrhyw beth!
  • 3:29 - 3:32
    Felly dyna Tatoeba,
  • 3:32 - 3:35
    Ond nid dyna'r cyfan.
  • 3:35 - 3:39
    Nid yw Tatoeba ond yn eiriadur o frawddegau
  • 3:39 - 3:42
    sy'n agored, sy'n gydweithredol, sy'n amlieithog.
  • 3:43 - 3:46
    Mae rhan o ecosystem y hoffem ei hadeiladu.
  • 3:46 - 3:50
    Hoffem ddod ag offer ieithyddol i'r lefel nesaf.
  • 3:50 - 3:54
    Hoffem weld arloesedd o fewn dysgu ieithoedd.
  • 3:54 - 3:59
    Ac ni all hyn ddigwydd heb adnoddau ieithodd agored
  • 3:59 - 4:02
    na allent gael eu hadeiladu heb gymuned,
  • 4:02 - 4:06
    na all gyfrannu heb lwyfannau effeithlon.
  • 4:07 - 4:10
    Felly yn gyfan gwbl, gyda Thatoeba,
  • 4:10 - 4:13
    'rydyn ni ond yn adeiliadu'r sylfeini
  • 4:13 - 4:14
    er mwyn gwneud i'r Rhyngrwyd
  • 4:14 - 4:23
    yn well le am ddysgu ieithoedd.
Title:
Prosiect Tatoeba - Geiriadur brawddegau agored, cydweithredol ac amlieithoeg
Description:

Fideo sy'n cyhoeddi'r syniadau allweddol y tu ôl i Brosiect Tatoeba Project (http://tatoeba.org/).

Dyma'r fersiwn cyntaf, a chyda thipyn o lwc, nid yr olaf y bydd. Gellir gael ei wella.

Os oes gan unrhyw un ragor o brofiad gyda golygu fideos nag sy' gennyf, meicroffôn gwell, llais gwell, sgiliau graffig gwell.... cysylltwch â mi =]

---------------------------------

Cysylltiad at gyfeiriad prezi. Mae'r fideo hwn yn cael ei seilio arno:
http://prezi.com/i-f9vmxoxkym/tatoeba/

The prezi presentation has been translated...
- into German (diolch i jakov): http://prezi.com/jkptitff3d8i/tatoeba-einfuhrungsvideo-deu/
- i'r Dwrcïeg (diolch i boracasli): http://prezi.com/teo-vffiex8x/tatoeba-turkce-prezisi/
- i'r Gymraeg (diolch i SteCymru14)

---------------------------------

more » « less
Video Language:
English
Duration:
04:17

Welsh subtitles

Revisions